Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Angela Hopkins, Bwrdd Iechyd Cwm Taf (Saesneg yn unig) Geoff Lang, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dr Martin Duerden, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Helen Simpson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Price (Clerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Datganodd Julie Morgan fuddiant am fod ei merch wedi bod yn rhan o'r tîm GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a fu'n ymchwilio i ddigwyddiadau'n ymwneud â C Difficile ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Geoff Lang, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Dr Martin Duerden, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nyrsio, Bydwreigiaeth a Chleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Helen Simpson, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion am ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar y cyd, ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’.
Camau gweithredu:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu:
· Rhagor o fanylion ynghylch pa mor aml y bu cyfarfodydd rhwng Prif Weithredwr GIG Cymru a Phrif Weithredwr ac uwch reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
· Rhagor o fanylion ynghylch pa mor aml y bu cyfarfodydd rhwng Cyfarwyddwr Cyllid y Bwrdd Iechyd a Chyfarwyddwr Cyllid presennol a blaenorol Llywodraeth Cymru.
· Ffigurau'n dangos sawl claf gafodd lawdriniaeth wedi'i hoedi o ganlyniad i'r lleihad yn nifer y triniaethau a berfformiwyd tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol, yn seiliedig ar y newid i safon perfformiad.
· Copïau o'r adolygiadau allanol a gynhaliwyd gan Chris Hurst ym mis Ebrill 2012 ac Allegra ym mis Rhagfyr 2012.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau a ganlyn:
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5 Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd fel rhan o'i ymchwiliad i Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
5.2 Bydd y Pwyllgor yn cymryd rhagor o dystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad ddydd Iau 18 Gorffennaf 2013.
6 Trafod adroddiad drafft ‘Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori’
6.1 Yn sgîl cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod adroddiad drafft y Pwyllgor, ‘Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori’ tan y cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2013.
7 Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol: Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.